
Pecyn gwaith 1
Rydym yn gweithio ar y cyd ag ymchwilwyr iechyd a gofal trwy gymuned arbenigedd Addysg Uwch Cymru gyfan, gyda ffocws ar gefnogi grwpiau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Rydym yn cydweithio gydag ymchwilwyr, ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, llywodraeth genedlaethol, elusennau a grwpiau cymunedol i ddarparu arbenigedd, cefnogaeth a hyfforddiant o'r radd flaenaf mewn economeg iechyd.
Mae Economeg Iechyd a Gofal Cymru yn gydweithrediad o arbenigwyr economeg iechyd ledled Cymru, wedi’i leoli ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe. Rydym yn falch o fod yn grŵp seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Fel canolfan ragoriaeth mewn economeg iechyd, ein uchelgais yw cefnogi iechyd a gofal yng Nghymru a thu hwnt.
Pan fydd adnoddau iechyd a gofal yn gyfyngedig, mae angen i ni ddarganfod pa driniaethau, ymyriadau a gwasanaethau sy’n cynnig y gwerth gorau am arian. Mae ein tîm Economeg Iechyd a Gofal Cymru yn archwilio costau a buddion y gwahanol adnoddau hyn. Rydym yn darparu’r dystiolaeth orau bosibl ac yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wneud dewisiadau anodd ynghylch sut i ddyrannu darpariaeth gofal iechyd gyfyngedig. Rydym yn gweithio tuag at greu effaith gadarnhaol ar iechyd, lles a ffyniant pobl Cymru a thu hwnt, nawr ac yn y dyfodol.
Gyda phwyslais ar gydweithredu a phartneriaeth rydym yn darparu arbenigedd mewn:
Darganfyddwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud trwy ein pecynnau gwaith.
Rydym yn gweithio ar y cyd ag ymchwilwyr iechyd a gofal trwy gymuned arbenigedd Addysg Uwch Cymru gyfan, gyda ffocws ar gefnogi grwpiau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Rydyn ni’n rhoi cyfranogiad ac ymgysylltiad cleifion a’r cyhoedd wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud wrth lunio, cynnal a rhannu ein gwaith gyda chleifion a’r cyhoedd
Rydym yn darparu cyngor a chefnogaeth economeg iechyd i sefydliadau iechyd a gofal yn erbyn blaenoriaethau ac anghenion Llywodraeth Cymru
Rydym hefyd yn cyfrannu arbenigedd economeg iechyd at wneud penderfyniadau a llunio polisïau
Rydym yn meithrin gallu mewn ymchwil economeg iechyd fethodolegol a chymhwysol yng Nghymru sydd o fudd i’n rhanddeiliaid yng Nghymru
Hawlfraint 2021 Economeg Iechyd a Gofal Cymru
Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd