Pecyn gwaith 3

Rydym yn cyfrannu arbenigedd economeg iechyd i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau a llunio polisïau.

Rydym yn gweithio gyda’r grwpiau canlynol:
  • Grŵp Strategaeth Meddyginiaeth Cymru Gyfan (AWMSG)
  • Technoleg Iechyd Cymru (HTW)
  • Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigedd Iechyd Cymru (WHSSC)
  • Paneli Grantiau Gwobrau Iechyd ac Ymchwil er Budd i Gleifion a’r Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Rydym yn darparu cyngor wedi’i dargedu, ar sail anghenion i gynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys:

  • Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd
  • Awdurdodau Lleol
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Timau Llywodraeth Cymru

Rydym yn darparu lefelau a dulliau amrywiol o gymorth, er enghraifft cyngor cyffredinol un i un, gweithdai ar sut i ddefnyddio a chymhwyso syniadaeth a dulliau economeg iechyd, i gyflwyno cynigion a thendrau i gefnogi prosesau comisiynu gwasanaethau ac ymyriadau ar sail tystiolaeth.

Isod ceir rhai astudiaethau achos sy’n gysylltiedig â phecyn gwaith 3.