Amdanom ni

Yn seiliedig ar ein llwyddiant blaenorol fel Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru (WHESS), dyfarnwyd cyllid pellach i ni gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac fe wnaethom ail-frandio yn 2020 i fod yn Economeg Iechyd a Gofal Cymru. Mae ein timau wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.

Mae gan ein hymchwilwyr talentog ystod eang o sgiliau, sy’n ein galluogi i sicrhau eich bod chi’n cael mynediad i’r cymorth a’r arbenigedd cywir. Gallwch gwrdd â’r tîm yma.

Ein gweledigaeth yw: ‘Darparu arbenigedd economeg iechyd o’r radd flaenaf (gan ddefnyddio dull ystwyth, integredig Cymru gyfan) a fydd yn galluogi ymchwil a datblygiad iechyd a gofal cymdeithasol rhagorol yng Nghymru er budd cleifion, y cyhoedd ac economi Cymru’

Sut gallwn eich helpu chi?

Mae ein tîm Economeg Iechyd a Gofal Cymru yn ymchwilio i werth am arian gwahanol driniaethau, ymyriadau a gwasanaethau. Rydym yn darparu’r dystiolaeth orau bosibl – neu’n helpu eraill i ddeall y dystiolaeth honno – support makinger mwyn helpu i wneud dewisiadau anodd ynghylch sut i ddyrannu ein hadnoddau iechyd a gofal cyfyngedig. Mae angen i ni wneud penderfyniadau ar adnoddau allweddol er mwyn cadw pobl yn iach a sicrhau eu bod yn derbyn gofal da ar hyd a lled Cymru, yn awr ac yn y dyfodol. Rydym yn gweithio ar draws y cwrs bywyd, yn ymchwilio i gost-effeithiolrwydd popeth o raglenni iechyd cyhoeddus sy’n ceisio atal salwch, i driniaethau newydd i wella canlyniadau i bobl â chyflyrau cronig neu ganser.  

Gallwn ddarparu arbenigedd, sgiliau a chefnogaeth yn y meysydd canlynol:

  • Datblygu astudiaethau
  • Meithrin cydberthnasau cydweithredol
  • Costio ymyriadau, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ac adnoddau cymdeithasol
  • Gwerthusiadau economaidd megis cost-effeithiolrwydd a dadansoddiadau cost-cyfleustodau, yn seiliedig ar dreialon clinigol a/neu fodelu economaidd
  • Gwneud adolygiadau ac epidemioleg systematig a realaidd
  • Defnyddio dulliau gosod blaenoriaethau gan gynnwys Cyllidebu Rhaglenni a Dadansoddi Ymylol (PBMA)
  • Gwneud Dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan y Claf (PROMs)
  • Cynnal Astudiaethau Cyflymu Dewis, er enghraifft arbrofion dewis arwahanol Defnyddio a dadansoddi data arferol.
  • Cyhoeddi a dosbarthu canlyniadau i ymchwilwyr eraill, cyllidwyr fel y llywodraeth ac elusennau ac i grwpiau cleifion.

Gyda phwy ydyn ni’n gweithio?

  • Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr mewn grwpiau Ymchwil Iechyd a Gofal eraill, unedau treialon clinigol ac ymchwilwyr eraill ar hyd a lled Cymru, y DU a thu hwnt. Er enghraifft, rydym yn cefnogi astudiaethau ymchwil sydd, yn ychwanegol at y budd clinigol, angen sefydlu hefyd a yw ymyrraeth neu driniaeth newydd yn gost-effeithiol.
  • Rydym yn darparu cymorth penodol i’r GIG ac i weithwyr gofal proffesiynol drwy bob un o’r Gwasanaethau Dylunio a Chynnal Ymchwil rhanbarthol. Gallwch gael mynediad uniongyrchol cyfleus i arbenigedd economeg iechyd i helpu gyda cheisiadau am grantiau a sicrhau cyllid ar gyfer eich ymchwil.
  • Rydym yn cydweithio hefyd gyda sefydliadau iechyd a gofal, gan gynnwys Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd y GIG, awdurdodau lleol a darparwyr gofal eraill i ymchwilio i weld a yw gwasanaethau neu ymyriadau lleol presennol yn darparu gwerth da am arian. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data cyffredinol, er enghraifft gwybodaeth a gesglir yn arferol i gynnal gwerthusiadau byd go iawn.
  • I awdurdodau lleol ac elusennau, gallwn helpu i ddangos gwerth cymdeithasol eich buddsoddiad mewn gwasanaethau ac ymyriadau newydd. Er enghraifft, mae ein Hwb Gwerth Cymdeithasol yn cynnig cymorth, cyngor, hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori i helpu sefydliadau i fesur a chyfleu’r newidiadau cadarnhaol maent yn eu creu i bobl a’r amgylchedd.
  • Rydym hefyd yn darparu arbenigedd economeg iechyd uwch i ystod o bwyllgorau sy’n gwneud penderfyniadau a llunio polisïau yng Nghymru, gan gynnwys Technoleg Iechyd Cymru, Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru gyfan a’r Bwrdd Caffael ar sail Tystiolaeth.