Covid 19

Mae Economeg Iechyd a Gofal Cymru yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi polisïau, yn helpu i ystyried cost-effeithiolrwydd yr hyn yr ydym yn gwario arian cyhoeddus arno a sut yr ydym yn defnyddio adnoddau prin yn ystod y pandemig COVID-19 a thu hwnt.

I weld rhai erthyglau cysylltiedig â Covid-19 gweler isod:

Ein cyfraniad at adferiad COVID-19

Astudiaethau COVID-19 a ariennir

Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid i helpu i ddeall heriau ac effaith economaidd y pandemig yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol.

Nid ydym wedi gwerthfawrogi ein GIG a’n sefydliadau gofal fwy nac yn ystod y profiad pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae hyn wedi dangos yn glir bod ein hadnoddau iechyd a gofal yn gyfyngedig. Mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynghylch sut i gael y budd mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer pobl Cymru.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi newid yr amgylchedd gwaith i gymaint ohonom. Rydym wedi addasu’n dda i’r newidiadau ac mae’n fusnes fel arfer ar gyfer y rhan fwyaf o’n gweithgareddau. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr ar rai o’r heriau a wynebwyd oherwydd COVID-19 (e.e. mae treialon ymchwil wedi’u gohirio yn ystod y pandemig) ond rydym hefyd wedi manteisio ar lawer o gyfleoedd i ddefnyddio ein sgiliau a’n harbenigedd i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau allweddol a gyflwynwyd gan COVID-19 ynghylch yr effaith ar iechyd ac economi Cymru a thu hwnt.

Mae enghreifftiau o’n gweithgareddau yn cynnwys:

Darparu cymorth polisi

  • Professor Rhiannon Tudor Edwards worked with Dr Brendan Collins (Chief Health Economist to the Welsh Government) on
  • Ymunodd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a’r Athro Deb Fitzsimmons â Choleg Arbenigwyr UKRI/NIHR er mwyn helpu i asesu grantiau yn gyflym, gan gyflawni adolygiadau lluosog yn aml o fewn 48 o’u derbyn.
  • Roedd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Dr Pippa Anderson a Dr Berni Sewell hefyd ar gofrestr o arbenigwyr i gefnogi Llywodraeth Cymru yn eu hymateb i COVID-19.

Darparu tystiolaeth ar ddiogelwch triniaethau ar gyfer COVID-19

  • Mae’r Athro Dyfrig Hughes wedi’i ddethol fel aelod o Dasglu Therapiwteg COVID-19 y DU. Bydd y Tasglu’n goruchwylio’r broses o nodi, datblygu a dosbarthu triniaethau diogel ac effeithiol.
  • Mae gwaith ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes ar drin gwenwyno clorocwin (Chloroquine) wedi darparu tystiolaeth bwysig ar ddiogelwch triniaethau sy’n cael eu profi i’w defnyddio ar gyfer COVID-19.

Cydweithiogyda’n partneriaid a rhanddeiliaid a chyfrannu arbenigedd economeg iechyd i geisiadau am grantiau;

  • Mae cynigion ymchwil a gyflwynwyd i alwadau COVID-19 ar draws llwyfannau cyllido UKRI a NIHR i gefnogi cynigion gyda grwpiau ymchwil eraill i ymchwilio i effaith yr argyfwng uniongyrchol ar bobl ac economi Cymru a niweidiau a chanlyniadau anfwriadol ehangach COVID-19.

Mae gwybodaeth bellach am ein digwyddiadau eraill diweddar, ar gael ar ein tudalen Newyddion.