Mae economeg iechyd yn gangen economeg sy’n gysylltiedig â gwerth darpariaeth gofal iechyd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd triniaethau ac ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd a’r defnydd o ofal iechyd.
Mae strategaeth Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd Economeg Iechyd a Gofal Cymru wedi’i hymgorffori yng Nghynllun Gweithredu Economeg Iechyd a Gofal Cymru, yn ddarostyngedig i waith monitro ac adrodd, fel pecyn gwaith craidd.
Mae cynyddu ymgysylltiad y cyhoedd mewn gwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, o’r cam datblygu’r syniad ymchwil, i rannu canfyddiadau’r ymchwil yn sicrhau bod y gwasanaethau’n fwy ymatebol i’r unigolion a’r cymunedau sy’n eu defnyddio. Gall gwasanaethau gwell arwain at ymyriadau iechyd gwell sy’n gost effeithiol hefyd, e.e. gallai rhestr o bryderon cleifion ganolbwyntio’r ymgynghoriaeth glinigol ar ganser y pen a’r gwddw, a darparu’r opsiynau triniaeth sydd eu hangen ar gleifion i gynorthwyo gyda’u hadferiad.
Rydym wedi mabwysiadu’r diffiniad o ‘gynnwys cleifion a’r cyhoedd mewn ymchwil’, sy’n golygu bod ymchwil yn cael ei gyd-gynhyrchu ‘gyda’ neu ‘gan’ y cyhoedd, yn hytrach nac ymchwil ‘i’, ‘ynghylch’ neu ‘ar gyfer’ y cyhoedd heb gyfleoedd i gyfrannu (Awdurdod Ymchwil Iechyd 2020). Mae hyn yn golygu ein bod yn awyddus i gleifion a phobl â phrofiad perthnasol gyfrannu at y ffordd mae ein gwaith ymchwil yn cael ei ddatblygu, ei ddylunio, ei gynnal a’i rannu ag eraill.
Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn astudiaeth fel cyfranogwr yn yr ymchwil.
Os hoffech, dylech ystyried ymuno â chronfa ddata Ymgysylltu â’r Cyhoedd Economeg Iechyd a Gofal Cymru o bobl sy’n awyddus i ddatblygu prosiectau ymchwil. Mae gwybodaeth am gyfleoedd i gymryd rhan a manylion prosiectau ymchwil cyfredol yn cael ei dosbarthu i unigolion yn y grŵp hwn drwy e-bost a chylchlythyrau.
Mae bod yn aelod o gronfa ddata Ymgysylltu â’r Cyhoedd Economeg Iechyd a Gofal Cymru yn golygu y gallwch:
**Os byddwch yn ymuno â Chymuned Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: https://www.healthandcareresearch.gov.wales/involvement-form/
Gallwch gysylltu â Llinos neu Liv yn uniongyrchol neu gyflwyno eich ymholiad gan ddefnyddio ein ffurflen gyswllt.
Dr Llinos Haf Spencer
Ebost: L.Spencer@Bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383171 (Gallwch adael neges ffôn a bydd Llinos yn dychwelyd eich galwad)
Dr Liv Kosnes
Ebost: hcec@swansea.ac.uk
Hawlfraint 2021 Economeg Iechyd a Gofal Cymru
Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd