Grŵp Economegwyr Iechyd Cymru (WHEG)

Dyddiad allweddol yng nghalendr Economeg Iechyd a Gofal Cymru yw Cyfarfod Blynyddol Grŵp Economegwyr Iechyd Cymruts’ (WHEG), sy’n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy Lywodraeth Cymru.  

Mae’r cyfarfodydd blynyddol hyn yn darparu cyfle pwysig i fyfyrwyr doethuriaeth ac ymchwilwyr sy’n cael eu hariannu gan Economeg Iechyd a Gofal Cymru ar hyd a lled Cymru ac economegwyr iechyd y sector cyhoeddus i drafod eu gweithgareddau a’u cynlluniau presennol o ran ymchwil, addysgu a chefnogaeth polisi. Mae’n gyfle gwych i fyfyrwyr Doethuriaeth ac ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd, i gyflwyno eu gwaith eu hunain drwy gyflwyniadau ac arddangosiadau poster mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol. Mae WHEG hefyd yn galluogi i gydweithwyr ar draws sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i ennill ymwybyddiaeth o economeg iechyd a chael mynediad at gymuned o arbenigedd.

WHEG 2020 

Roedd yn bleser gennym groesawu 40 a mwy o gydweithwyr i’r digwyddiad WHEG dwy awr a gynhaliwyd ar 19eg Hydref 2020 (eleni cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein oherwydd y pandemig COVID-19). Dechreuodd yr Athro Deb Fitzsimmons a’r Athro Rhiannon Tudor Edwards, cyd-gyfarwyddwyr Economeg Iechyd a Gofal y cyfarfod drwy gyhoeddi ymddeoliad ac yna dathlu gyrfa hirsefydlog yr Athro Emeritws Ceri Phillips, Prifysgol Abertawe. Mae’r Athro Phillips wedi cael gyrfa nodedig fel economegydd iechyd, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yna ehangodd yr Athro Phillips ar y cyflwyniad a phwysleisiodd yn ei gyflwyniad ‘bod gofal iechyd darbodus wrth wraidd gofal iechyd ar sail gwerth ‘value-based healthcare’ yng Nghymru. Yna fe siaradodd tri siaradwr mewnol o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor. Dr Mari Jones o Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE) gyda chyflwyniad ar ‘Gost-effeithiolrwydd defnyddio radiotherapi yn ogystal â gosod stent i gleifion â chanser’, a Dr Katherine Cullen o SCHE a gyflwynodd ei hymchwil ar ‘Gost Carsinoma Hepatogellol ar gyfer GIG Lloegr: dadansoddiad yn seiliedig ar gofrestrfa’. O’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor, Dr Emily Holmes, a ddarparodd fanylion ei Chymrodoriaeth Dyfarniad Ymchwil Uwch ar ymwrthedd i wrthfiotigau ac ymddygiad cleifion. Roedd y cyflwyniadau byr hyn yn adlewyrchu ar y gwaith economeg iechyd cydweithredol amrywiol sy’n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru. Daeth ein digwyddiad i ben gyda’r siaradwr gwadd olaf, Dr Brendan Collins, Pennaeth Economeg Iechyd, Llywodraeth Cymru, yn trafod dull Llywodraeth Cymru o reoli’r pandemig, ‘Covid-19: sioc iechyd a sioc economaidd’ gan gynnwys cyfnod atal byr y cyfyngiadau symud. 

A hoffech ymuno â WHEG? 

Rydym yn edrych ymlaen at WHEG 2021, a fydd yn ddigwyddiad cyhoeddus ar y cyd i gyflwyno ein gwaith ac i weithredu fel fforwm i ni ddysgu gan y cyhoedd, er enghraifft drwy weithdai ar y cyd. I gael gwybod mwy am WHEG a’n cyfarfodydd blynyddol, cysylltwch ag Ann Lawton, Gweinyddwr Economeg Iechyd a Gofal Cymru, a.b.lawton@bangor.ac.uk.