Athro Deb Fitzsimmons o SCHE, Prifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn aelod blaenllaw o WHESS am 10 mlynedd a mwy, yn derbyn y cyfrifoldeb o lywio Economeg Iechyd a Gofal Cymru fel Cyd-gyfarwyddwr newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ynghyd â’r Athro Rhiannon Tudor Edwards o CHEME, Prifysgol Bangor.
“Rwy’n falch iawn o gael ymuno â Rhiannon fel cyd-gyfarwyddwr Economeg Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf i barhau i gefnogi Llywodraeth Cymru, Sefydliadau Iechyd a Gofal a’r GIG yng Nghymru a thu hwnt” Yr Athro Deb Fitzsimmons.