Y Cyfnos Trethu: Economeg Iechyd Gogledd Cymru / Webinar

Gwahoddwyd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), i siarad mewn digwyddiad ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a’r Sefydliad Materion Cymreig (IWA). Roedd cyflwyniad Rhiannon yn archwilio’r hyn y mae gostyngiad yn y boblogaeth o oedran gweithio yng Ngogledd Cymru yn ei olygu i wydnwch yn y dyfodol yn economaidd, yn gymdeithasol ac o ran ein hiechyd, ein llesiant a’n lles.

Mae gan Ogledd Cymru lawer i’w gynnig o ran amaethyddiaeth, cyflogaeth, economi addysgu sefydlog, ac fel cyrchfan twristiaeth. Mae yna gyfleoedd amrywiol ar gyfer gwaith ym maes lletygarwch, ynni gwyrdd, a’r economi ddigidol. Soniodd Rhiannon am bwysigrwydd hybu gwytnwch ar gyfer y boblogaeth o oedran gweithio nawr ac yn y dyfodol drwy gefnogi seilwaith, hyfforddiant ac addysg bellach o fewn y diwydiannau hyn.

Pan ofynnwyd iddi awgrymu rhai ffyrdd o hybu gwydnwch, dywedodd Rhiannon:

  • – Cydnabod effaith costau tanwydd cynyddol ar y boblogaeth wledig a gwella trafnidiaeth fel y gall pobl gymudo i’r gwaith
  • – Creu cyfleoedd i fusnesau yng Ngogledd Cymru
  • – Hyrwyddo addysg prifysgol neu hyfforddiant diwydiant i bobl ifanc
  • – Hyrwyddo ynni gwyrdd megis cynlluniau ynni lleol
  • – Cefnogi cynllunio lleol. Er enghraifft, mae Cwmni Bro Ffestiniog yn arwain adfywiad economaidd yn lleol yn ardal Blaenau Ffestiniog. Maent yn arloesi mewn ffordd o greu dyfodol amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol ar gyfer eu cymuned leol
  • – Croesawu ffoaduriaid a fydd yn gwella ein heconomi ac yn cyfoethogi ein diwylliant

Gwyliwch recordiad o’r weminar Taxing Twilight yma

I ddysgu mwy am y Gwmni Bro Ffestiniog cliciwch yma.