Mae’r project Hyrwyddo Gweithgarwch, Annibyniaeth a Sefydlogrwydd mewn Dementia Cynnar (PrAISED) yn astudiaeth dementia dan arweiniad yr Athro Rowan Harwood o Brifysgol Nottingham. Arweinir elfen economeg iechyd yr astudiaeth hon gan yr Athro Rhiannon Tudor-Edwards, Dr Victory Ezeofor a Ned Hartfiel o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Bangor. Mae rhaglen PrAISED wedi’i chynllunio i helpu pobl â nam gwybyddol ysgafn neu ddementia cyfnod cynnar i aros yn iachach ac yn fwy annibynnol am gyfnod hwy. Nod yr astudiaeth yw deall yn well ymarferoldeb ymarfer corff ac ymyriadau sy’n seiliedig ar weithgaredd i gynyddu galluoedd cleifion, lleihau cwympiadau, ac arafu’r dirywiad mewn gwybyddiaeth.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfuniad o ymarferion, gweithgareddau bywyd bob dydd a strategaethau’r cof i helpu i wella a chynnal iechyd corfforol a meddyliol pobl â dementia cynnar a’u gofalwyr. Mae’r rhaglen yn cynnwys cefnogaeth gartref gan therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion a gweithwyr cefnogi adsefydlu dros gyfnod o flwyddyn. Mae nifer yr ymweliadau cartref gan weithwyr iechyd proffesiynol yn dibynnu ar anghenion a dewisiadau pobl.
Bydd gwerthusiad adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad (SROI) a gynhelir gan Brifysgol Bangor yn archwilio canlyniadau iechyd pobl sy’n byw gyda dementia cynnar a’u gofalwyr. Bydd mesur y gwerth cymdeithasol a gynhyrchir gan PrAISED yn helpu i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyrraeth wedi’i chynllunio i gefnogi pobl â dementia cyfnod cynnar.
Bydd y gwerthusiad cost-effeithiolrwydd yn archwilio amrywiadau o ymyrraeth ymarfer corff gyda graddau uwch ac is o oruchwyliaeth. Cynhelir y gwerthusiad hwn ar y sail y byddai ymyrraeth cefnogaeth llai dwys yn rhatach i’w darparu, ond efallai na fydd yn sicrhau ymlyniad hirdymor y tybir ei fod yn angenrheidiol er mwyn gweld buddion, tra bydd goruchwyliaeth ddwysach yn ddrutach ond efallai’n fwy effeithiol.
Mae’r astudiaeth yn seiliedig ar waith a gynhaliwyd dros nifer o flynyddoedd wrth archwilio a chyfrannu at gorff eang o dystiolaeth ffisiolegol sy’n cysylltu ymarfer corff â chanlyniadau gwell. Gan nad yw dulliau ataliol yn addas iawn ar gyfer pobl â dementia a’u heffeithiolrwydd yn ansicr, bydd yr astudiaeth hon yn cynhyrchu gwybodaeth newydd sylweddol am gymhelliant ac ymlyniad i’w harchwilio gan ddefnyddio model dadansoddol i ddadansoddi penderfyniadau i ddeall dementia a’r cleifion yn well.
Darllenwch fwy am yr astudiaeth:
https://www.nottingham.ac.uk/research/groups/healthofolderpeople/projects/praised/index.aspx