
Sefydliad: Y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor, Ysbyty Prifysgol North Tees, Cymdeithas Hap-Dreialon Iechyd Gogledd Cymru (NWORTH)
Cyswllt allweddol: Dr Llinos Haf Spencer, CHEME, Prifysgol Bangor, l.spencer@bangor.ac.uk
Pa gwestiwn y gwnaethom lwyddo i fynd i’r afael ag ef?
Roedd yr astudiaeth WASh hon yn ymchwilio i ddewisiadau cleifion o ran sgrinio’r coluddion gan ddefnyddio’r weithdrefn sigmoidosgopi hyblyg i chwilio am bresenoldeb canser y colon a’r rectwm.
Beth wnaethon ni?
Cynhaliodd ymchwilwyr Economeg Iechyd a Gofal Cymru arbrawf dewis arwahanol (dull DCE) i archwilio pwysigrwydd perthynol gwahanol agweddau ar sigmoidosgopi hyblyg i gleifion. Disgrifiwyd poen y weithdrefn yn nhermau tair lefel bosibl, a disgrifiwyd pob nodwedd arall (methu annormaledd, amser y weithdrefn, glanhau coluddyn a chymhlethdod) gan ddefnyddio dwy lefel. Defnyddiodd y DCE gatalog dylunio arbrofol a arweiniodd at gyflwyno wyth dewis deuaidd damcaniaethol i gleifion yn RCT WASh, 24 awr ar ôl eu gweithdrefn sigmoidosgopi hyblyg. Gofynnwyd i gleifion ddewis (neu wneud cyfaddawdau) rhwng y nodweddion yn y tasgau DCE drwy gymharu’r amrywiad yn lefelau’r priodoleddau rhwng dewisiadau mewn parau ac yna dewis rhwng dau neu fwy o senarios damcaniaethol cystadleuol, sy’n datgelu eu hoffter cymharol am wahanol briodoleddau.
Beth yw’r effaith ddisgwyliedig?
Roedd DCE dewisiadau cleifion WASh yn dangos y dylid cyflwyno gwybodaeth am boen ac effeithiolrwydd posibl sigmoidosgopi hyblyg i gleifion cyn iddynt wneud dewis ynghylch opsiynau sigmoidosgopi hyblyg. Hefyd, roedd yn well gan gleifion weithdrefnau byrrach dros gyfnod hwy o amser a byddai cleifion yn fwy parod i ddioddef mwy o boen er mwyn cael llai o ganlyniadau negatif anghywir.
Cyhoeddiadau:
Rutter, M. D., Evans, R., Hoare, Z., Von Wagner, C., Deane, J., Emaily, S., Larkin, T., Edwards, R., Yeo, S. T., Spencer, L. H., Holmes, E., Saunders, B. P., Rees, C. J., Tsiamoulos, P., BEintaris, I. On behalf of the WASh trial team. (2020). The WASh multicentre randomised controlled trial: Water-assisted sigmoidoscopy in English NHS bowel scope screening. Gut. doi: 10.1136/gutjnl-2020-321918