Dichonoldeb a Derbynioldeb Llwybr Clinigol Newydd ar gyfer Nodi Diffyg Ymatebwyr i Ddiferion Llygaid Glawcoma: Yr Astudiaeth TRIAGE

Dr Simon Read

Sefydliad: Canolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE) ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Y Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil (RDCS)

Cyswllt Allweddol: Dr Simon Read, SCHE, Prifysgol Abertawe, s.m.read@swansea.ac.uk

Pa gwestiwn y gwnaethom lwyddo i fynd i’r afael ag ef?

Roedd y gwaith ymchwil yn archwilio’r llwybrau newidiol ar gyfer gofal clinigol i bobl â glawcoma. Gall cleifion â glawcoma ddatblygu pwysedd intraocular (IOP) uwch na’r disgwyl er bod diferion llygaid gorisbwysol wedi’u rhagnodi iddynt. Gall hyn greu problemau i glinigwyr o ystyried bod IOP yn gynnyrch yr ymateb seicolegol ac ymlyniad cleifion.

Beth wnaethon ni?

Mewn cydweithrediad â’r RDCS, fe wnaethom gefnogi grant llwyddiannus i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer cynllun Budd Cleifion a’r Cyhoedd. Fe asesodd yr astudiaeth a oedd Model Gofal Glawcoma Caerdydd, llwybr clinigol a oedd yn ceisio mynd i’r afael â’r materion hyn, yn dderbyniol i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a darparu gwybodaeth newydd ar ddiffyg-ymateboldeb a diffyg-ymlyniad i driniaeth gorisbwysol llygadol latanoprost. Fe wnaethom werthuso effaith o ran adnoddau a chostau llwybr Model Gofal Glawcoma Caerdydd yn erbyn y gofal arferol a chanfod datrysiadau i heriau o ran recriwtio a chyflawni’r ymchwil. Bu economegwyr iechyd Economeg Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio’n agos gyda’r tîm ymchwil ansoddol a helpu i ddatblygu themâu ac argymhellion yn ogystal â chyflawni’r elfennau economeg iechyd. Mae cyfraniadau o’r fath yn hollbwysig er mwyn newid y rhagdybiaeth gyffredin bod economegwyr iechyd ‘ond yn gwneud y gwaith costio ar y diwedd’.

Jigsaw Pieces

Beth oedd yr effaith?

Fe arweiniodd y cydweithrediad llwyddiannus gyda Dr Simon Read, y cymdeithasegydd ar dîm yr astudiaeth, at gydweithrediad pellach ar brosiect ymchwil arall ac fe wnaethom ddysgu mwy am ddisgyblaethau ein gilydd er budd pawb. Mae Simon bellach wedi ymuno â SCHE ac Economeg Iechyd a Gofal Cymru fel ymchwilydd, i ddatblygu’r synergedd hwn a chefnogi astudiaethau eraill. Roedd y cyfraniad economeg iechyd yn hollbwysig er mwyn nodi’r llwybr newydd a fyddai’n creu’r effaith leiaf yn ariannol ac o ran adnoddau, pe byddai’r llwybr yn cael ei newid. Nodwyd rhwystrau eraill at newid ond mae diddymu’r pryderon ariannol yn hollbwysig er mwyn tynnu sylw rheolwyr gwasanaeth. Darparodd yr astudiaeth dystiolaeth gadarn i hysbysu’r gwaith o ddatblygu llwybr glawcoma gan greu budd clinigol gwell fel rhan o ddarparu gofal o ansawdd i wella iechyd unigolion a theuluoedd yng Nghymru.

Roedd yr astudiaeth TRIAGE yn brofiad amhrisiadwy, yn cynnig canfyddiadau newydd ar lwybrau gofal iechyd, diffyg ymateb ac ymlyniad i feddyginiaethau, cyflwyno ymyriadau cymhleth a phrofiad cleifion. Bu i ni gyhoeddi dwy erthygl gyda thrydedd erthygl yn destun adolygiad ac agorwyd trafodaethau newydd ar reoli cyflyrau cronig y llygaid, gan gynnwys glawcoma. Rwy’n falch iawn bod fy ngwaith ar yr astudiaeth wedi arwain at symud i WHESS [Economeg Iechyd a Gofal Cymru erbyn hyn], cydweithrediadau ar astudiaethau ymchwil newydd a fy natblygiad proffesiynol fy hun.” Dr Simon Read.

Cyhoeddiadau:

Waterman, H., Read, S., Morgan, J. E., Gillespie, D., Nollett, C., Allen, D., Weiss, M., & Anderson, P. (2020). Acceptability, adherence and economic analyses of a new clinical pathway for the identification of non-responders to glaucoma eye drops: a prospective observational study. British Journal of Ophthalmology.

Read, S., Morgan, J., Gillespie, D., Nollett, C., Weiss, M., Allen, D., Anderson, P., & Waterman, H. (2020). Chronic Conditions and Behavioural Change Approaches to Medication Adherence: Rethinking Clinical Guidance and Recommendations. Patient Preference and Adherence, 14, 581.