Defnyddio data cyffredinol i hysbysu GIG y DU o effaith costau a chyllidebau ar reoli Canser yr Afu Cynradd

Sefydliad: Canolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE) ym Mhrifysgol Abertawe a Grŵp Llywio Partneriaeth Carsinoma Hepatogellol (HCC)/Gwasanaeth Cenedlaethol Cofrestru a Dadansoddi Canser (NCRAS)

Cyswllt Allweddol: Katherine Cullen, SCHE, Prifysgol Abertawe, katherine.cullen@swansea.ac.uk

Pa gwestiwn y gwnaethom lwyddo i fynd i’r afael ag ef?

Un thema sydd wedi dod i’r amlwg yw’r defnydd a’r cymhwysiad o ddata cyffredinol i hysbysu dadansoddiadau economeg iechyd, gyda nifer o brosiectau’n cael eu cynnal gyda chronfeydd data SAIL, CPRD a’r GIG. Mae ymchwilwyr Economeg Iechyd a Gofal Cymru wedi cwblhau prosiect yn ddiweddar gyda’r Grŵp Llywio Partneriaeth Carsinoma Hepatogellol (HCC)/Gwasanaeth Cenedlaethol Cofrestru a Dadansoddi Canser (NCRAS). Mae’r grŵp hwn yn arbenigwyr clinigol HCC ar draws y DU gyfan, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Lloegr ac ymchwilwyr sy’n gweithio mewn partneriaeth ar nifer o brosiectau cydgysylltiedig er mwyn deall y dulliau presennol o reoli a chanlyniadau HCC yn y DU.

Beth wnaethon ni?

Bu i ni gynnal adolygiad o lenyddiaeth a dadansoddiad o effaith cyllideb llwybrau triniaeth HCC yn y GIG yn Lloegr. Fe ddyluniodd y tîm economeg iechyd gynllun dadansoddi data newydd ar gyfer y dadansoddiad o effaith y gyllideb, gan gynnwys defnyddio modelu dadansoddol penderfyniadau i amcangyfrif costau HCC ar draws gwahanol lwybrau triniaethau, wedi’i haenu â bwriad triniaeth, statws sylfaenol clefyd yr afu a phriodoleddau cleifion, fel rhan o gymhwyso dadansoddiad byd go iawn mewn arfer clinigol arferol.

People working collaboratively on a laptop

Beth yw’r effaith ddisgwyliedig?

Cyflwynwyd adroddiad llawn ar y dadansoddiad o effaith y gyllideb i grŵp llywio’r bartneriaeth, a fydd yn ffurfio sail i bapur. Mae crynodebau’n cael eu paratoi hefyd i’w cyflwyno mewn cynadleddau, gan gynnwys BSG.

O ganlyniad i gyflwyno tystiolaeth o ansawdd uchel, disgwyliwn i hyn arwain at gomisiynu gwasanaethau ar gyfer pobl â HCC, cefnogi penderfyniadau ynglŷn â chyllideb y GIG a gofal iechyd ar sail gwerth.