Sefydliad: CHEME ym Mhrifysgol Bangor a gwasanaethau dermatoleg BCUHB yn Ysbyty Gwynedd
Cyswllt Allweddol: Dr Hani Ismail, MRes Health Economics, CHEME, Prifysgol Bangor
Pa gwestiwn y gwnaethom lwyddo i fynd i’r afael ag ef?
Mae pum deg pedwar y cant o’r boblogaeth yn cael eu heffeithio gan glefydau croen cronig mewn unrhyw flwyddyn a gwelwyd cynnydd o 35% yn y gweithgarwch newydd o ran cleifion allanol dros 10 mlynedd. Mae gwariant Gorllewin BCUHB yn cynyddu bob blwyddyn, a chredir mai gorwariant ar driniaethau cyffuriau sy’n gyfrifol am hyn. Mae ffototherapi yn defnyddio pelydrau uwchfioled (UVB) i drin cyflyrau’r croen yn effeithiol, gan gynnwys psoriasis, ac mae’n driniaeth sy’n cael ei chynnal yn yr ysbyty yn bennaf. Dangoswyd bod y driniaeth hon wedi clirio psoriasis mewn 80-90% o gleifion. Mae ffototherapi yn galw am dri ymweliad wythnosol, ac mae llawer o gleifion yn cael anhawster i’w mynychu oherwydd mynediad gwael i unedau ffototherapi. Er mwyn mynd i’r afael â’r rhwystr hwn i gael mynediad at ffototherapi mewn ysbytai, bu Dr Hani Ismail, MRes Economeg Iechyd yn archwilio economeg iechyd ffototherapi cymunedol drwy gynnal adolygiad systematig, ymchwil ansoddol a dadansoddiad costau. Roedd yr adolygiad systematig yn ystyried y dystiolaeth bresennol ar gost-effeithiolrwydd ffototherapi yn y cartref.

Beth wnaethon ni?
Mae Economeg Iechyd a Gofal Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn dod â gwasanaethau dermatoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) yn Ysbyty Gwynedd a staff yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor at ei gilydd i gynnig profiad hyfforddiant MRes i Dr Hani Ismail, myfyriwr meddygol F1, i archwilio economeg therapi blwch golau cymunedol yng Ngogledd Cymru wledig.
Beth yw’r effaith ddisgwyliedig?
Canfu Dr Hani Ismail fod ffototherapi yn y cartref yn fwy cost effeithiol neu’n llai costus, gyda chanlyniadau tebyg, o gymharu â ffototherapi yn yr ysbyty. Defnyddiodd yr ymchwil ansoddol gyfweliadau lled-strwythuredig i archwilio profiadau cleifion, staff a gofalwyr o ffototherapi cymunedol. Roedd y dadansoddiad costau yn archwilio cost cwrs o ffototherapi yn y cartref a ffototherapi yn yr ysbyty.

Rydym yn rhagweld papur academaidd wedi’i adolygu gan gymheiriaid yn dilyn yr ymchwil hwn, yn ogystal ag adroddiad BCUHB ar arbedion costau posibl i’r GIG o gael gwasanaeth therapi blwch golau cymunedol gyda’r potensial i leihau rhagnodi cyffuriau biolegol cost uchel ar draws Gogledd Cymru.
Gall yr astudiaeth hon amlygu dewisiadau amgen i gyffuriau newydd cost uchel i drin triniaethau dermatolegol, wedi’u halinio â’r agenda gofal iechyd ar sail gwerth.