Gwerthusiad ac Adsefydlu Niwroseicolegol mewn Sglerosis Ymledol

Sefydliad: NEuRoMS

Pa gwestiwn y gwnaethom lwyddo i fynd i’r afael ag ef?

Mynd i’r afael â chost-effeithiolrwydd grant rhaglen 6 blynedd NIHR ar gyfer ymchwil gymhwysol i ddatblygu, gwerthuso a gweithredu llwybr rheoli clinigol, ymgorffori adsefydliad niwroseicolegol mewn Sglerosis Ymledol (MS) (yr astudiaeth NEuROMs), a’r effaith economaidd ar y GIG, cleifion a chymdeithas.

Beth wnaethon ni?

Fe wnaethom ddarparu cymorth ac arbenigedd ac rydym yn arwain pecyn gwaith economeg iechyd y prosiect. Hefyd, cynlluniwyd dull newydd (yn seiliedig ar ein harbenigedd yn defnyddio modelau rhesymeg i gefnogi gwerthusiadau economeg iechyd) i ddogfennu problemau posibl o ran capasiti gwasanaethau a chynllunio llwyth gwaith i gomisiynwyr fel rhan o’r broses o hysbysu strategaeth weithredu arfaethedig y rhaglen.

Beth yw’r effaith ddisgwyliedig?

Lansiwyd yr astudiaeth ar Ddiwrnod Rhyngwladol MS ar 30th Mai 2019, gyda gwefan bwrpasol. Mae’r gwaith hwn yn galluogi Economeg Iechyd a Gofal Cymru i ‘hybu a diogelu lle Cymru yn y byd’. Drwy ymgysylltu’n llawn ar lwyfan y DU, rydym yn meithrin perthnasau gyda grwpiau allweddol ar hyd a lled y DU ac yn datblygu perthnasau rhyngwladol o ganlyniad i gynyddu ein gwelededd, ein presenoldeb a’n perfformiad y tu hwnt i Gymru. Byddwn hefyd yn cyfrannu i ‘ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o safon sy’n addas ar gyfer y dyfodol’ i gefnogi gwasanaethau ac ymyriadau gwerth uchel ar gyfer pobl â Sglerosis Ymledol.