
Sefydliad: Cydweithio â BCUHB ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyswllt Allweddol: Lucy Bryning, CHEME, Prifysgol Bangor, l.bryning@bangor.ac.uk
Pa gwestiwn y gwnaethom lwyddo i fynd i’r afael ag ef?
Mae cyfraddau isel presennol bwydo ar y fron yng Nghymru (llai na 10% o fabanod) yn bryder iechyd cyhoeddus sylweddol, sy’n creu gwariant ataliadwy ar ofal iechyd a marwolaethau babanod y gellir eu hosgoi. Pe byddai cyfraddau bwydo ar y fron yn cynyddu ar ôl 4 mis i’r cyfraddau a arsylwir adeg genedigaeth, gallai hyn arbed hyd at £1.5 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Mae Cymru’n buddsoddi yn y ‘Fenter Cyfeillgar i Fabanod’ sydd, am gost flynyddol o £110,000, yn cael ei hystyried yn fodel ar gyfer sicrhau ansawdd cefnogaeth bwydo ar y fron yng Nghymru.

Beth wnaethon ni?
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal adolygiad yn ddiweddar o’r dystiolaeth a’r opsiynau ar gyfer asesu ansawdd cefnogaeth bwydo ar y fron yng Nghymru, gan gynnwys parhau i fuddsoddi yn y Fenter Cyfeillgar i Fabanod; addasu dull y Fenter gyda phwyslais ar symud o ffocws lleol i ddull Cymru gyfan; neu ddatblygu dull newydd, gyda’r bwriad o ddadfuddsoddi yn null sicrhau ansawdd y Fenter yn yr hirdymor. Fel rhan o’r adolygiad hwn, darparodd Lucy Bryning arbenigedd economeg iechyd i helpu i hysbysu panel annibynnol o randdeiliaid i werthuso’r opsiynau.
Beth oedd yr effaith?
Yn dilyn lansiad cynllun strategol bwydo babanod y Bwrdd Iechyd Lleol, daeth defnyddwyr gwasanaeth, gweithwyr proffesiynol o’r sector cyhoeddus ac academyddion ynghyd i drafod sut yr oedd cynhyrchu ar y cyd yn hollbwysig er mwyn cynorthwyo teuluoedd a phlant yng Ngogledd Cymru i sicrhau’r dechrau gorau i fywyd.