Hwb Methodolegol

Cyswllt Allweddol: Athro Dyfrig Hughes, CHEME, Prifysgol Bangor, d.a.hughes@bangor.ac.uk

Mae Hwb Methodolegol Economeg Iechyd a Gofal Cymru yn darparu amgylchedd i ddatblygu a chymhwyso dulliau arloesol o gynnal gwerthusiadau economeg iechyd a dadansoddiadau cysylltiedig. Diben yr Hwb yw gwella dilysrwydd a pherthnasedd y sylfaen dystiolaeth gofal iechyd er mwyn gwneud penderfyniadau gwell ar y defnydd o adnoddau.

Bydd yr Hwb sy’n cynrychioli Cymru gyfan yn herio dulliau presennol, datblygu methodolegau newydd a hybu arfer da drwy:

  • Cyd-gynhyrchu prosiectau a phapurau ar y cyd â’n rhanddeiliaid
  • Sicrhau y defnyddir ein canfyddiadau i hysbysu prosesau dylunio, cynnal, dadansoddi ac adrodd astudiaethau economaidd yn y dyfodol
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill i sicrhau’r buddiannau posibl mwyaf – er enghraifft y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) a Phartneriaeth Ymchwil Methodolegol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae meysydd enghreifftiol o ddatblygu methodolegol yn cynnwys:

  • Datblygu sgorau tariff y DU ar gyfer yr EQ-5D-5L
  • Datblygu fframwaith gwerth i Gleifion a Dinasyddion
  • Gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol a dulliau cymhwysol (e.e. Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad, SROI)
  • Blaenoriaethu, dyrannu adnoddau a chyllidebu rhaglenni a dadansoddiadau ymylol (PBMA)
  • Rhoi cyfrif am ddata coll mewn gwerthusiadau economaidd ar sail treialon