Hwb Gwerth Cymdeithasol: Mesur gwerth cymdeithasol ar gyfer sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector

Sefydliad: y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor

Cyswllt Allweddol: Dr Ned Hartfiel, CHEME, Prifysgol Bangor, ned.hartfiel@bangor.ac.uk

Yr Hwb Gwerth Cymdeithasol

Mae’r Hwb Gwerth Cymdeithasol yn cynnig cymorth, cyngor, hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori i helpu sefydliadau i fesur a chyfleu’r newidiadau cadarnhaol maent yn eu creu i bobl a’r amgylchedd. Drwy fesur a phennu gwerth ariannol canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, gall yr Hwb Gwerth Cymdeithasol gyfrifo cymhareb gwerth cymdeithasol i gymharu buddion a chostau. Mae cymhareb budd-cost o 3:1, er enghraifft, yn dangos bod buddsoddiad o £1 yn creu £3 o werth cymdeithasol.

Yn 2019/20, cynigiodd yr Hwb Gwerth Cymdeithasol gyngor, hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori i helpu sefydliadau i fesur a chyfleu’r newidiadau cadarnhaol mae sefydliadau statudol, gwirfoddol ac elusennol yn eu gwneud i bobl a’r amgylchedd mewn cymunedau lleol. Rydym wedi creu partneriaethau gyda Chyngor Conwy, Cyngor Sir Gwynedd, Grŵp Cynefin, y Gydweithfa Gofal Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Well North Wales, a’r Gymdeithas Small Woods/Coed Lleol. Datblygodd yr Hwb Gwerth Cymdeithasol bartneriaethau ymchwil hefyd gyda Phrifysgolion Caerdydd, Caerlŷr a Nottingham, Prifysgol De Cymru a Chanolfan PRIME Cymru. Gan adeiladu ar gyfleoedd i rwydweithio a chydweithio, mae Dr Mary Lynch yn aelod o grŵp llywio Rhwydwaith Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru (WSPRN), sy’n anelu at greu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Cwblhaodd yr Hwb Gwerth Cymdeithasol adroddiad hefyd i Gyngor Sir Gwynedd ar ‘Werth cymdeithasol llwybrau â chymhorthdal yng Ngwynedd’.

Llun: Dr Ned Hartfiel ac Eira Winrow yn darparu hyfforddiant gwerth cymdeithasol i Rwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru yn Amgueddfa Lofaol Big Pit ym Mlaenafon, Torfaen.

Beth yw’r effaith?

Yn 2019-20, cyhoeddodd yr Hwb Gwerth Cymdeithasol dri phapur a phrotocol, wedi’u hategu gan dri phrosiect MSc ac un prosiect Doethuriaeth ar bresgripsiynau cymdeithasol a gwneud cyflwyniadau mewn pedair cynhadledd. Fe wnaethom ddarparu hyfforddiant gwerth cymdeithasol hefyd i Gyngor Gorllewin Swydd Gaer a Swydd Gaer, Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN) yn y Fenni a Bangor, Busnes Cymru, Cyngor Sir Conwy a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Birmingham.

Drwy’r Hwb Gwerth Cymdeithasol ac aelodaeth gydag WSPRN, rwy’n aelod allweddol yn awr o Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR), sy’n cael ei hariannu gan gronfa seilwaith Iechyd ac Ymchwil Gofal Cymru. Mae WSSPR yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a phartneriaid eraill i ddatblygu’r dystiolaeth hollbwysig ar gyfer presgripsiynau cymdeithasol yng Nghymru, gyda’r rhwydweithiau yn chwilio am gyfleoedd ymchwil cydweithredol newydd” Dr Mary Lynch.

Darllenwch fwy am yr Hwb Gwerth Cymdeithasol yma: http://socialvalue.bangor.ac.uk/