Datblygu’r mesur MobQoL ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a chymhorthion symudedd cynorthwyol

Sefydliad: Y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor

Key contact: Dr Nathan Bray, CHEME, Bangor University, n.bray@bangor.ac.uk

Pa gwestiwn y gwnaethom lwyddo i fynd i’r afael ag ef?

Yn y DU, mae 11 miliwn a mwy o bobl yn byw gyda nam, anabledd neu salwch cronig cyfyngol; mae tua 6% o blant, 16% o oedolion o oedran gweithio a 45% o’r henoed yn cael eu dosbarthu fel pobl anabl. Namau symudedd yw un o achosion mwyaf cyffredin anabledd, ac mae angen cymhorthion symudedd ar lawer o bobl anabl, gan gynnwys cadeiriau olwyn, er mwyn gallu symud o gwmpas yn annibynnol. Y GIG yw cyflenwr mwyaf cymhorthion symudedd yn y DU, fodd bynnag mae angen mwy o dystiolaeth i ddeall pa gymhorthion symudedd yw’r dulliau mwyaf cost-effeithiol o wella symudedd ac ansawdd bywyd pobl â namau symudedd.

Beth wnaethon ni?

Mae Dr Nathan Bray, Dr Llinos Haf Spencer, Dr Lorna Tuersley a’r Athro Rhiannon Tudor Edwards wedi datblygu mesur newydd ar gyfer canlyniadau ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig â symudedd cleifion, o’r enw MobQoL. Mae’r MobQol yn cwmpasu ystod o wahanol agweddau ar ansawdd bywyd sy’n gallu cael eu heffeithio neu eu dylanwadu gan symudedd. Mae’r offer MobQoL yn cael ei ddatblygu fel rhan o Gymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Nathan. Yng ngham nesaf y prosiect, bydd y tîm yn treialu’r offer MobQoL ac yna’n datblygu system sgorio ar sail dewisiadau.

Bydd canfyddiadau o’r astudiaeth hon yn helpu’r GIG i ddarparu’r gofal gorau posibl i bobl â namau symudedd. Drwy ein hymchwil byddwn yn datblygu’r mesur canlyniadau MobQoL, profi ei gywirdeb a’i ddilysrwydd, a datblygu system sgorio ar sail dewisiadau ar gyfer y mesur. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yma: https://cheme.bangor.ac.uk/mobqol

Image: Dr Nathan Bray meeting with Baroness Campbell at the House of Commons