
Sefydliad: Canolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE) ym Mhrifysgol Abertawe
Cyswllt Allweddol: Dr Liv Kosnes, SCHE, Prifysgol Abertawe, l.kosnes@swansea.ac.uk
Pa gwestiwn y gwnaethom lwyddo i fynd i’r afael ag ef?
Rydym yn cefnogi sefydliadau’r GIG gyda gwerthusiadau dulliau cymysg i waith modelu economaidd sy’n hysbysu prosesau cynllunio a chyflenwi gwasanaethau. Datblygodd Dr Liv Kosnes a Rhys Pockett Weithdai Model Gwerthuso a Rhesymeg i dimau amrywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru a chymeradwywyd eu hagenda natur bwrpasol a chreu capasiti a’u dulliau addysgu a dysgu y mae eu hansawdd wedi’i sicrhau a’i brofi.
Diben y gweithdai oedd:
- darparu’r offer sydd eu hangen ar fynychwyr i’w cynorthwyo i gynllunio a gwerthuso eu gwasanaethau a’u rhaglenni,
- sicrhau dealltwriaeth bwysig bellach o beth yw gwerthusiad (a’r hyn nad ydyw) a
- nodi pa ddulliau y gellir eu defnyddio i gyflwyno tystiolaeth gadarn i’w defnyddio gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a gweithwyr iechyd proffesiynol mewn cyd-destunau lleol, byd go iawn.
Beth wnaethon ni?

Bu Dr Liv Kosnes a Rhys Pockett yn gweithio gyda’r Hwb Gofal Sylfaenol i ddatblygu adnoddau dysgu ar gyfer pum gweithdy, a gynhaliwyd ar draws Cymru. Fe ddysgodd staff gofal sylfaenol i ddefnyddio modelau rhesymeg a nodi dangosyddion ar gyfer mesur er mwyn fframio datblygiad rhaglenni a hwyluso gwerthusiad cynhwysfawr, ochr yn ochr â hyder a chapasiti i gyfleu nodau ac amcanion gwerthuso da a dyluniad gwerthuso da. Cafodd y gweithdai hyn eu hategu gan glinigau un i un ar gyfer cyfranogwyr y gweithdai, er mwyn darparu cefnogaeth a chyngor ychwanegol ar ddatblygu a gwerthuso prosiectau penodol.
Beth yw’r effaith ddisgwyliedig?
Derbyniodd y gweithdai adborth rhagorol, a oedd yn awgrymu canlyniadau tymor byr ymwybyddiaeth a dealltwriaeth well, cynllunio gwell, capasiti uwch a hunan-effeithlonrwydd i gynnal gwerthusiadau. Bydd canlyniadau tymor hir yn cael eu nodi wrth gysylltu’n ddiweddarach â mynychwyr. Mae’r gwaith yn cefnogi’r argymhellion a wnaed yng ngwerthusiad beirniadol rhaglen Pacesetter ac ystod ehangach o ganllawiau a dogfennau polisi yng Nghymru, er enghraifft y ‘Nod Pedwarplyg’, ‘Ffyniant i Bawb’ (cyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal o safon sy’n addas ar gyfer y dyfodol; cymhwyso pawb gyda’r sgiliau cywir ar gyfer byd sy’n newid), ‘Cymru Iachach’ ac adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Un o amcanion Economeg Iechyd a Gofal Cymru yw datblygu gallu a chapasiti ym maes arbenigol economeg iechyd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon, rwyf wedi mwynhau cydweithio’n arbennig gyda’r Hwb Datblygu Gofal Sylfaenol a Chymunedol ac Arloesedd ar y gweithdai hyn ar hyd a lled Cymru. Rydym wedi cyflwyno syniadaeth a fframweithiau economeg iechyd gymhwysol er mwyn meithrin gallu unigol a sefydliadol i ddefnyddio gwerthusiadau i wella canlyniadau” Dr Liv Kosnes.