Astudiaeth gwerthoedd EQ-5D-5L y DU

Sefydliad: CHEME, Prifysgol Bangor, SCHE, Prifysgol Abertawe, a’r Ysgol Iechyd ac Ymchwil Cysylltiedig, Prifysgol Sheffield.

Cyswllt Allweddol: Dr Nathan Bray, CHEME, Prifysgol Bangor, n.bray@bangor.ac.uk

Pa gwestiwn y gwnaethom lwyddo i fynd i’r afael ag ef?

Cyhoeddwyd set gwerthoedd EQ‑5D‑5L ar gyfer Lloegr gan Devlin et al yn 2018. Fodd bynnag, barn bresennol NICE yw na ddylid defnyddio’r set gwerthoedd hon. Mae hyn yn dilyn proses sicrhau ansawdd annibynnol (Hernandez Alava et al, 2018) ac adroddiadau gan bedwar arbenigwr annibynnol, a fynegodd bryderon ynghylch ansawdd a dibynadwyedd y data a gasglwyd yn yr astudiaeth werthuso, a’r dulliau a ddefnyddiwyd i fodelu’r data hwn. Yn sgil hyn, comisiynwyd yr astudiaeth gwerthoedd EQ-5D-5L newydd ar gyfer y DU.

Beth wnaethon ni?

Mae’r tîm ymchwil ar gyfer yr astudiaeth gwerthoedd EQ-5D-5L newydd wedi’i gadarnhau, ac mae’n cynnwys pedwar cynrychiolydd o Economeg Iechyd a Gofal Cymru: Dr Nathan Bray, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, yr Athro Deb Fitzsimmons a’r Athro Dyfrig Hughes. Bydd y tîm sy’n cynrychioli’r DU gyfan yn cael ei arwain gan Dr Donna Rowen (Ysgol Iechyd ac Ymchwil Cysylltiedig, Prifysgol Sheffield) a dewiswyd y tîm yn ofalus gan Grŵp Llywio’r prosiect er mwyn sicrhau sylw rhanbarthol i’r astudiaeth.

Mae’r tîm ymchwil sydd newydd eu penodi wedi dechrau gweithio ar brotocol yr astudiaeth, gyda chefnogaeth protocol gwerthuso rhyngwladol (EQ-VT) o Sefydliad Ymchwil EuroQol. Bydd proses Rheoli Ansawdd Annibynnol yn cael ei hymgorffori ym mhob cam, gydag adolygiadau’n cael eu cynnal ar ôl cyrraedd pob carreg filltir yn yr astudiaeth. Disgwylir i’r broses o gasglu data ddechrau yn 2021.

Beth yw’r effaith ddisgwyliedig?

Bydd yr astudiaeth gwerthoedd EQ-5D-5L newydd yn darparu set gwerthoedd y DU ar gyfer yr EQ-5D-5L. Bydd y set gwerthoedd yn darparu gwerthoedd (pwysoliad) ar gyfer disgrifiadau cyflwr iechyd EQ-5D-5L yn ôl dewisiadau poblogaeth gyffredinol y DU. Defnyddir y rhain i gyfrifo blynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl ansawdd (QALY) sy’n hysbysu gwerthusiadau economaidd o ymyriadau gofal iechyd.

Mae cynrychioli Cymru a phoblogaeth Cymru wedi’i ymgorffori’n benodol yn y prosiect hwn drwy ddewis safle astudio yng Nghymru (o dan arweiniad Dr Nathan Bray). Bydd cynrychiolwyr o HCEC yn cyfranogi ym mhob cam o gynllunio a chynnal yr ymchwil, ac yn casglu data yng Nghymru. Mae’n debygol y bydd nifer o gyhoeddiadau effaith uchel yn cael eu cynhyrchu o ganlyniad i’r astudiaeth hon a bydd y canlyniadau’n cael dylanwad uniongyrchol ar argymhellion NICE ar gyfer cyfrifo QALY a datblygu dulliau mesur canlyniadau.