Prosiect Doethuriaeth: Canfod gwerthoedd cleifion a’r cyhoedd mewn canser

Sefydliad: Canolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE) ym Mhrifysgol Abertawe ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

Cyswllt Allweddol: Rebecca Summers, SCHE, Prifysgol Abertawe

Pa gwestiwn y gwnaethom lwyddo i fynd i’r afael ag ef?

Datblygu prosiect Doethuriaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre i gefnogi creu fframwaith yn seiliedig ar werthuso arloesedd gweithredoedd ac addysg cleifion, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau Deallusrwydd Artiffisial (AI). Ceisia’r prosiect ddatblygu cyfres o feini prawf ar sail gwerthoedd, sy’n ymgorffori gwerthoedd cleifion a dinasyddion yn y gwerthusiad. Mae’r gwaith hwn yn cefnogi cenhadaeth Gofal Canser Felindre i ‘ddarparu’r gofal gorau i gleifion, addysg ac ymchwil o’r radd flaenaf’, er mwyn deall, disgrifio a mesur y cysyniad o ‘werth’ mewn gofal canser, a chasglu safbwyntiau cleifion a’r cyhoedd.

Beth wnaethon ni?

Gan gydweithio â Phillip Webb, Cyfarwyddwr Cynllunio Strategol, a’r Athro Peter Barrett-Lee, cyfarwyddwr clinigol Ymddiriedolaeth GIG Felindre ar y pryd, cyflwynwyd a dyfarnwyd cais o raglen KESS II sy’n galluogi Prifysgolion i weithio gyda chwmnïau i gynnal prosiectau ymchwil cydweithredol a hyfforddiant sgiliau uwch. Cafodd Rebecca Summers, nyrs gymwys a ddychwelodd i Gymru’n ddiweddar, ar ôl cwblhau cwrs Meistr ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen, gyda’r uchelgais o ddatblygu gyrfa mewn economeg iechyd ansoddol ac ymchwil gwasanaethau iechyd, ei recriwtio i’r prosiect.

Beth oedd yr effaith ddisgwyliedig?

Mae’r prosiect Doethuriaeth newydd ddechrau ei ail flwyddyn, gyda nifer o gyflwyniadau wedi’u gwneud i bwyllgorau Canolfan Ganser Felindre, gan gynnwys ei phanel cleifion a’r cyhoedd. Cafodd gwaith Rebecca ei ddewis i’w gyflwyno yng nghynhadledd Doethuriaeth KESS II yn Hwngari yn ystod Gwanwyn 2019, a chafodd ei gyflwyno yng nghyfarfod Grŵp Economegwyr Iechyd Cymru (WHEG) ym mis Hydref 2019. Mae allbynnau’n cael eu paratoi ar gyfer cam cychwynnol y gwaith sy’n disgrifio gofal ar sail gwerth o safbwynt uwch arweinwyr barn a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.

Rwy’n creu fframwaith gwerthuso ar gyfer y lleoliad gofal canser yn seiliedig ar werthoedd ystod eang o randdeiliaid gofal iechyd. Ar ôl llywio camau cynllunio’r prosiect, mae’n braf gweithio gyda chyfranogwyr mewn ymdrech i siapio eu gwasanaeth gofal iechyd. Mae trafodaethau ar ofal iechyd a chyflwyno gofal iechyd yn bwysicach nac erioed, ac mae’r prosiect hwn yn amserol iawn fel cyfrwng i gleifion, gofalwyr a’r cyhoedd leisio eu barn a chydweithio i siapio gwasanaeth gofal iechyd ar gyfer y dyfodol, sy’n cael ei werthfawrogi gan bawb” Rebecca Summers, myfyriwr doethuriaeth.