Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC 2019

Cyswllt Allweddol: Dr Llinos Haf Spencer, CHEME, Prifysgol Bangor, l.spencer@bangor.ac.uk

Beth oedd diben y digwyddiad? 

Fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC ar y 7fed o Dachwedd 2019, bu i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd â Karen Harrington, ein cynrychiolydd Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn Economeg Iechyd a Gofal Cymru, gynnal dau ddigwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd am ddim i arddangos gwaith ymchwil economeg iechyd ar bresgripsiynu cymdeithasol a lles yng Nghymru a helpu i siapio cyfeiriad prosiectau ymchwil y dyfodol.

Beth wnaethon ni? 

Roedd y digwyddiadau’n cysylltu â phob un o’r pedair thema ar gyfer ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn y Strategaeth Genedlaethol ‘Ffyniant i Bawb’ gan gynnwys ‘Ffyniannus a Diogel’, ‘Iach ac Egnïol’, ‘Uchelgais a Dysgu’ ac ‘Unedig a Chysylltiedig’. Roedd yn darparu cyfle i bobl leol ddarganfod, trafod ymchwil ar y gwyddorau cymdeithasol a chael syniad o waith economegwyr iechyd a phwysigrwydd iechyd a gofal cymdeithasol ar sail gwerth.

Llun: Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards yn adlewyrchu ar economeg iechyd gofalu ar hyd oes yng Ngŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC.

Roedd cyflwyniadau yn y digwyddiad yn cynnwys:

  • Sgwrs Dr Ned Hartfiel ar werthuso’r prosiect Canolfan Iechyd ym Mae Colwyn (cafodd y gwerthusiad ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru). Roedd dau aelod o’r cyhoedd yn rhan o fwrdd cynghori’r prosiect.
  • Uchafbwyntiau gwaith gan Dr Nathan Bray, Dr Lorna Tuersley a Dr Carys Jones gyda chyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar waith atal yn ystod y cwrs bywyd gan gynnwys Trawsnewid Bywydau Ifanc, Byw’n Iach yn Hirach a Lles mewn Gwaith a Wellness in Work.
  • Cyflwyniad Dr Leah McLaughlin a Dr Joanna Charles ar eu prosiect dewisiadau dialysis.

Beth oedd yr effaith?

Roedd y digwyddiad yn addysgiadol iawn ac yn amlygu’r ymchwil arloesol sy’n cael ei wneud yma yng Nghymru. Roedd tystiolaeth o’r ymchwil yn dangos effaith gadarnhaol presgripsiynu cymdeithasol ar lesiant ein hunigolion’ wellbeing”, Karen Harrington, Cynrychiolydd Cyhoeddus Economeg Iechyd a Gofal Cymru.