Mae’r Athro Rhiannon Tudor Edwards a’r swyddogion ymchwil Dr Holly Whiteley a Jacob Davies yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), Prifysgol Bangor, yn rhan o broject newydd gan Horizon Europe, Invest4Health (I4H). Mae’r project yn cynnig dull cyllido, Smart Capacitating Investment (SCI), sy’n anelu at ddarparu cyllid cynaliadwy i fesurau iechyd ataliol. Gan adeiladu ar y cysyniad o fuddsoddiad cymdeithasol, bydd I4H yn datblygu dulliau cyllido cynaliadwy i hybu iechyd ac atal clefydau a chymell a hybu buddsoddiad o fewn sectorau a rhwng sectorau.