Gwerthuso Rhaglen ‘Agor Drysau i’r Awyr Agored’ (ODO) y Bartneriaeth Awyr Agored

Mae Swyddogion Ymchwil HCEC, Dr Ned Hartfiel, Dr Holly Whiteley ac Abraham Makanjuola ym Mhrifysgol Bangor, a’r Athro Mary Lynch, University of the West of Scotland, yn cydweithio â’r Bartneriaeth Awyr Agored a Cyflymu/Accelerate i werthuso effaith y Rhaglen ‘Agor Drysau i’r Awyr Agored’ (ODO).

Mae ODO yn rhaglen presgripsiwn cymdeithasol sy’n gweithio gyda chlystyrau meddygon teulu lleol a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Bydd y rhaglen yn recriwtio chwe deg o gyfranogwyr i fynychu un sesiwn ODO pedair awr yr wythnos am ddeuddeg wythnos gyda’r nod o wella lles corfforol a meddyliol trwy weithgareddau awyr agored. O fewn chwe lleoliad yng Ngogledd Cymru, bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded lefel isel gydag opsiynau ar gyfer gwneud gweithgareddau eraill fel e-feicio, dringo a chwaraeon padlo. Bydd pob gweithgaredd yn hygyrch ac yn cynnwys amser ar gyfer cymdeithasu (h.y. stopio am bicnic ac ymweld â chaffi). Anogir cyfranogwyr i gysylltu â’i gilydd a datblygu cyfeillgarwch.

Bydd fframwaith enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad (SROI) yn cael ei ddefnyddio i werthuso ODO, a fydd yn mesur graddfa’r llesiant meddyliol a chorfforol gwell am bob £1 a fuddsoddir yn y rhaglen, yn cael ei gyfrifo drwy rannu cyfanswm gwerth y canlyniadau â chyfanswm y gwerth. o fewnbynnau.