Flog fideo o ddwy gynhadledd economeg iechyd gan Abraham Makanjuola, Swyddog Ymchwil Economeg Iechyd a Gofal Cymru (HCEC) – Haf 2022

Yn ystod haf 2022, aeth Swyddog Ymchwil HCEC, Abraham Makanjuola i ddwy gynhadledd, lle cyflwynodd ei waith ar brosiect ‘Emotion Mind Dynamic (EMD)’.

Cafodd Abraham y dasg gan Gyd-gyfarwyddwr HCEC, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, i adrodd yn ôl am beth ddaeth i’r amlwg yn y cynadleddau. O ganlyniad, penderfynodd Abraham greu flog fideo er mwyn rhannu ei brofiad ag eraill.

Y gynhadledd gyntaf a fynychodd Abraham oedd 100fed sesiwn Grŵp Astudiaeth Economegwyr Iechyd y DU 2022 (HESG) a gynhaliwyd rhwng 22 a 24 Mehefin ym Mhrifysgol Sheffield. Fel ymchwilydd gyrfa gynnar, dyma oedd y tro cyntaf i Abraham fynychu unrhyw gynhadledd sy’n gysylltiedig ag Economeg Iechyd. Heb yn wybod beth yn union i’w ddisgwyl mewn cynhadledd o’r fath, penderfynodd Abraham greu flog fideo ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar eraill yn yr un sefyllfa “Roeddwn i eisiau gadael adnodd ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar eraill”. Gallwch wylio flog fideo cynhadledd gyntaf Abraham yma: https://aheblog.com/2022/10/13/meeting-round-up-hesg-summer-2022/

O fewn pythefnos mynychodd Abraham ei ail gynhadledd Economeg Iechyd sef Grŵp Astudio Economegwyr Iechyd y DU (HESG). Dyma oedd sesiwn 2022 Cymdeithas Economeg Iechyd Ewrop (EuHEA) a gynhaliwyd rhwng 5-8 Gorffennaf ym Mhrifysgol Oslo. Thema’r gynhadledd oedd ‘Economeg Iechyd ar gyfer systemau lles cynaliadwy’.

Dywedodd Abraham, “y rhesymeg y tu ôl i’r flog fideo yma oedd rhoi sylw i fynychu cynhadledd o safbwynt ymchwilydd gyrfa gynnar”. Gallwch wylio’r flog fideo yma sy’n cynnwys rhai o wibdeithiau diwylliannol cyffrous Abraham o amgylch Oslo yma: https://aheblog.com/2022/10/14/meeting-round-up-euhea-conference-2022/