ENWI PRIFYSGOL BANGOR YN Y DEG UCHAF O BLITH Y SEFYDLIADAU SY’N CYDWEITHIO AR YMCHWIL ECONOMEG IECHYD MEWN DADANSODDIAD BYD-EANG O DDATA LLYFRYDDOL YN DDIWEDDAR

Cafodd Prifysgol Bangor ei henwi ymysg y deg prifysgol orau am gydweithio ar economeg iechyd o blith 1,723 o sefydliadau’n fyd-eang mewn adolygiad o 4,096 o gyhoeddiadau economeg iechyd rhwng 1975 a 2022.

Enwyd Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor, yn yr adolygiad fel un o’r economegwyr iechyd pwysicaf o ran chwiliadau am gyhoeddiadau gan economegwyr iechyd ym maes economeg iechyd yn y cyfnod dan sylw. Ar hyn o bryd mae Rhiannon yn arwain partneriaeth Cymru ar grant ymchwil sy’n werth dros £4 miliwn a ariennir gan Horizon Europe, sy’n ymchwilio i fuddsoddiadau clyfar mewn camau ataliol a fydd yn eu tro yn helpu capasiti. Mae’n gywaith rhwng wyth gwlad yn Ewrop. Mae Rhiannon yn gweithio’n glos gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda, un o bedwar safle arbrofi ledled Ewrop sy’n rhan o’r astudiaeth. Cyhoeddodd Rhiannon dros 400 o erthyglau  a adolygir gan gymheiriaid ym maes economeg iechyd.

 

Mae economeg iechyd yn faes cynyddol bwysig i Brifysgol Bangor. Bydd Rhiannon yn cyfrannu at gwricwlwm myfyrwyr Ysgol Feddygol newydd Gogledd Cymru, ynghyd a dysgu ym Mhrifysgol Lerpwl, lle mae hi’n Athro Gwadd.

Dywedodd Rhiannon, “Mae’n bwysig bod academyddion uwch yn dal ati i ddysgu, oherwydd mae’n arwain at gyweithiau ymchwil yn y dyfodol.” Gwnaed cydweithio economeg iechyd Cymru-gyfan yn bosibl trwy gyllid seilwaith gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Llywodraeth Cymru) drwy Economeg Iechyd a Gofal Cymru.