Cyfarfod Blynyddol Grŵp Economegwyr Iechyd Cymru WHEG 2020

[image: Welsh Health Economists Group online meeting]

Ym mis Hydref 2020, cynhaliodd HCEC gyfarfod rhithiol cyntaf Grŵp Economegwyr Iechyd Cymru (WHEG) a fynychwyd gan 40 a mwy o economegwyr iechyd, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a myfyrwyr doethuriaeth. Mae’r cyfarfod yn gyfle pwysig i drafod cyfeiriad strategol economeg iechyd ar hyd a lled Cymru ac i atgyfnerthu cydweithrediad ym maes economeg iechyd ar draws Cymru gyfan. Yn 2020/21, buom yn dathlu ymddeoliad a gyrfa hir sefydlog yr Athro Ceri Phillips, Prifysgol Abertawe. Mae Ceri wedi cael gyrfa nodedig fel economegydd iechyd, ac wedi bod yn llais economeg iechyd yn rheolaidd yn y cyfryngau yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Darparodd ei sgwrs ar ‘fair innings’ ddealltwriaeth o’r cyfraniad y gall economeg iechyd ei wneud i feysydd ymchwil a pholisi. Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalen WHEG.