Beth yw effaith hirdymor COVID-19 ar Ansawdd Bywyd sy’n Gysylltiedig ag Iechyd unigolion â symptomau ysgafn (neu nad ydynt yn yr ysbyty): Adolygiad cyflym

Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd darparu tystiolaeth ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig ag iechyd wedi’i diweddaru ar gyfer model afiachusrwydd COVID-19 yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AIGC). Mae’r model hwn wedi cael ei ddefnyddio’n eang ers 2020 i gefnogi Profi ac Olrhain, asesu cost-effeithiolrwydd y rhaglen frechu COVID-19, a chefnogi penderfyniadau ynghylch polisi COVID-19. Nododd yr adolygiad y gall unigolion â salwch COVID-19 ysgafn cychwynnol, neu’r rhai na chawsant eu trin yn yr ysbyty, gael ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig ag iechyd is ar ôl COVID-19. Fodd bynnag, mae maint, difrifoldeb a hyd hyn yn anghyson. Mae’r adolygiad yn categoreiddio’r dystiolaeth yn ôl y gwahanol fesurau ansawdd bywyd cysylltiedig ag iechyd a ddefnyddiwyd yn yr astudiaethau tra’n cynnig dadansoddiad o’r mesurau hynny.

Dolen i adolygiad llawn:

Beth yw effaith hirdymor COVID-19 ar Ansawdd Bywyd sy’n Gysylltiedig ag Iechyd unigolion â symptomau ysgafn (neu heb fod mewn ysbyty)? RR00027_Wales_COVID-19_Evidence_Centre-Rapid_review_of_innovations_addressing_inequalities_experienced_by_women_and_girls__due_to_COVID-19-January_2022.pdf (primecentre.wales)