Mae’r Athro Rhiannon Tudor Edwards a swyddogion ymchwil Economeg Iechyd a Gofal Cymru, Dr Llinos Haf Spencer a Kalpa Pisavadia yn cynnal dadansoddiad o gostau economaidd pryder amenedigol a’r gwasanaeth iechyd fel rhan o astudiaeth MAP ALLIANCE.
Amcangyfrifwyd bod problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio ar 1 o bob 5 merch a gallant gael effaith hirdymor ar y plentyn. Ariennir yr astudiaeth ymchwil dulliau cymysg hon gan Raglen Cyflenwi ac Ymchwil Gwasanaethau Iechyd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd. Fe’i cynhelir yn Lloegr a’r Alban, dan arweiniad yr Athro Susan Ayers o City, Prifysgol Llundain ynghyd â chyd-ymchwilwyr ym Mhrifysgol Stirling. Bydd y dadansoddiad yn defnyddio gwybodaeth o bedwar pecyn gwaith gan gynnwys arolygon hunan-adrodd wedi’u cwblhau fesul cyfnod gan ferched ar ôl rhoi genedigaeth – merched gydag a heb bryder amenedigol ac anhwylderau cysylltiedig. Bydd pecynnau gwaith eraill yn archwilio cofnodion gofal sylfaenol a chyfweliadau ansoddol manwl gyda merched sy’n profi’r problemau hyn a chyda gweithwyr iechyd proffesiynol a chomisiynwyr. Y gobaith yw y bydd yr astudiaeth hon yn cynorthwyo comisiynwyr a darparwyr y GIG i ddylunio a thrawsnewid gwasanaethau, gan arwain at well gofal a gwell canlyniadau i famau a phlant.