ENWI PRIFYSGOL BANGOR YN Y DEG UCHAF O BLITH Y SEFYDLIADAU SY’N CYDWEITHIO AR YMCHWIL ECONOMEG IECHYD MEWN DADANSODDIAD BYD-EANG O DDATA LLYFRYDDOL YN DDIWEDDAR

Cafodd Prifysgol Bangor ei henwi ymysg y deg prifysgol orau am gydweithio ar economeg iechyd o blith 1,723 o sefydliadau’n fyd-eang mewn adolygiad o 4,096 o gyhoeddiadau economeg iechyd rhwng 1975 a 2022. Enwyd Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor, yn yr adolygiad fel un o’r […]

Invest4Health, Prosiect Horizon Europe

Mae’r Athro Rhiannon Tudor Edwards a’r swyddogion ymchwil Dr Holly Whiteley a Jacob Davies yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), Prifysgol Bangor, yn rhan o broject newydd gan Horizon Europe, Invest4Health (I4H). Mae’r project yn cynnig dull cyllido, Smart Capacitating Investment (SCI), sy’n anelu at ddarparu cyllid cynaliadwy i fesurau iechyd ataliol. Gan adeiladu […]

Darllenwch Adroddiad Blynyddol HCEC 2021/22

Mae adroddiad Blynyddol Economeg Iechyd a Gofal Cymru bellach yn cael ei gyhoeddi. Gallwch ei lawrlwytho yn Gymraeg neu Saesneg er mwyn darllen i fyny ar ein llwyddiannau ac uchafbwyntiau’r flwyddyn ddiwethaf.

Costau economaidd pryder amenedigol: Astudiaeth MAP ALLIANCE

Mae’r Athro Rhiannon Tudor Edwards a swyddogion ymchwil Economeg Iechyd a Gofal Cymru, Dr Llinos Haf Spencer a Kalpa Pisavadia yn cynnal dadansoddiad o gostau economaidd pryder amenedigol a’r gwasanaeth iechyd fel rhan o astudiaeth MAP ALLIANCE. Amcangyfrifwyd bod problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio ar 1 o bob 5 merch a gallant gael effaith […]

Cyhoeddiad newydd gan dîm PrAISED ar astudiaeth SROI o’r rhaglen PrAISED

Llongyfarchiadau i gymrawd ymchwil HCEC, Dr Ned Hartfiel a thîm PrAISED am gyhoeddiad newydd yn y Gerontology and Geriatric Medicine Journal. Mae’r papur yn archwilio dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) o hybu annibyniaeth, gweithgarwch a sefydlogrwydd mewn dementia cynnar (PrAISED), astudiaeth ar effeithiolrwydd ymarfer corff gartref ac atgyfeirio yn y gymuned ar gyfer pobl […]