Mae COVID-19 wedi newid anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl Cymru yn aruthrol. Nod Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yw sicrhau bod y dystiolaeth orau, gyfredol a pherthnasol ar gael yn rhwydd i’n rhanddeiliaid sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru er mwyn llywio eu penderfyniadau.
Mae yna lawer o dimau adolygu, ac mae Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) wedi cynhyrchu dau adolygiad hyd yn hyn:
Cwestiwn 1 Pa arloesi sy’n gallu gwella amseroldeb archwiliadau a mynd i’r afael â’r ôlgroniad ym maes endosgopi ar gyfer cleifion sydd â symptomau posibl canserau’r Gastroberfedd uchaf ac isaf? RR_00003. (Awst 2021)
Cwestiwn 2 Ydy mesurau atal a rheoli haint wedi arwain at unrhyw ddeilliannau niweidiol i breswylwyr a staff cartrefi gofal a gofal cartref? Rhif adroddiad – RR_00018 (Tachwedd 2021)