Aelodau o CHEME a SCHE yn ymuno â’r tîm ymchwil newydd sy’n datblygu’r EQ-5D-5L newydd

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn tynnu ar dystiolaeth o gost-effeithiolrwydd cyffuriau a thriniaethau newydd ac sydd eisoes ar gael, i benderfynu a ddylent eu hargymell ar draws Cymru a Lloegr. Mae’r flwyddyn fywyd a addaswyd yn ôl ansawdd (QALY) a ddefnyddiwyd yn yr asesiad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i fesur ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig ag iechyd. Mae NICE yn argymell y dylid gwneud hyn drwy ddefnyddio’r holiadur EQ-5D ac mae dau fersiwn ohono ar gael (3L a 5L). Mae algorithmau yn rhoi gwerth rhifol i’r cyflyrau iechyd hyn sy’n deillio o setiau gwerthoedd cenedlaethol sy’n dangos sut mae’r boblogaeth yn rhoi gwerth ar fod mewn gwahanol gyflyrau iechyd/cyfuniadau o atebion i’r holiadur. Mae set gwerthoedd EQ-5D-5L yn bodoli ar gyfer Lloegr ond nid yw’n cael ei argymell i’w ddefnyddio oherwydd pryder ynghylch ei ansawdd a’i ddibynadwyedd. Oherwydd hyn, comisiynwyd astudiaeth gwerth newydd EQ-5D-5L ar gyfer y DU. Oherwydd bod canllawiau NICE yn berthnasol i Gymru a Lloegr, mae’n hollbwysig bod yr offer gwerthuso a ddefnyddir hefyd yn adlewyrchu gwerthoedd pobl sy’n byw yng Nghymru, ac nid yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Mae HCEC yn cefnogi cyfraniad Cymru i’r astudiaeth gwerthoedd genedlaethol, sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Sheffield ac sy’n cael ei hariannu gan y Grŵp EuroQoL. Bydd Dr Nathan Bray, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a’r Athro Dyfrig Hughes o CHEME, Prifysgol Bangor a’r Athro Deb Fitzsimmons o SCHE, Prifysgol Abertawe yn cydweithio fel y safle astudiaeth newydd i Gymru. Bydd y gwaith methodolegol hwn a wneir gan HCEC yn sicrhau y bydd poblogaeth Cymru’n cael ei chynnwys yn set gwerthoedd y DU. Bydd hyn yn rhoi’r hyder i ymchwilwyr a rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y dyfodol mewn rhoi gwerth cadarn sydd hefyd yn cynrychioli gwerthoedd (pwysoliad) y boblogaeth yng Nghymru. Bydd y set gwerthoedd EQ-5D 5L newydd yn gwneud cyfraniad ac yn cael effaith sylweddol ar Gymru a’r DU wrth ategu pob cyflwyniad technoleg iechyd i HTW, AWMSG a NICE ac yn rhyngwladol. Bydd y gwaith hwn yn hysbysu’r mwyafrif o benderfyniadau ynghylch a ddylid cyllido neu gyflwyno cyffuriau neu driniaethau newydd i gleifion yng Nghymru a Lloegr wrth symud i’r dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.