Mae adolygiad a gyd-ysgrifennwyd gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards yn bwrw golwg yn ôl dros gysyniad y flwyddyn fywyd a addaswyd yn ôl ansawdd (QALY), sy’n 50 oed. Mae’r adolygiad hwn yn rhoi trosolwg hanesyddol o ddatblygiad cysyniad y QALY ac yn cynnig archwiliad manwl o’r dadleuon methodolegol a gyflwynwyd mewn dau bapur dylanwadol. Y dulliau dadansoddol a gynigiwyd gan Fanshel a Bush (1970) a Torrance (1970) yw’r sylfaen i’r dull yma o fesur ansawdd bywyd, dull sydd bellach yn elfen allweddol yn arfogaeth werthuso economegwyr iechyd.
Mae’r papur yn cloi trwy drafod dadleuon methodolegol a ddilynodd dros yr 50 mlynedd diwethaf a gwahanol sylwebaethau am ymchwil a defnydd o QALYs ym maes polisi at y dyfodol.